Quantcast
Channel: Search Results
Viewing all articles
Browse latest Browse all 25

The Health and Social Care Act 2008 (Commencement No. 4, Transitional and Savings Provisions) (Wales) Order 2010 / Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2010

$
0
0

This Order brings into force on 26 July 2010 certain provisions of the Health and Social Care Act 2008 (“the Act”) which amend the Public Health (Control of Disease) Act 1984. These include revised and expanded powers to make health protection regulations, both with regard to the spread of infection or contamination from international travel, and with regard to domestic provision for protecting against, or responding to, infection or contamination. There are new powers for justices of the peace to make orders requiring health protection measures to be taken in relation to persons, things or premises. Justices of the peace will also be able to direct any action that might be appropriate to give effect to their orders. There are also modified rights of entry and enforcement arrangements relating to health protection measures. In addition, there are a number of transitional and savings provisions, primarily in relation to the notice requirements under pre-existing legislation.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 26 Gorffennaf 2010, rai darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (“y Ddeddf”) sy'n diwygio Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae'r rhain yn cynnwys pwerau diwygiedig ac ehangach i ddiogelu iechyd drwy wneud rheoliadau ynglŷn â lledaenu heintiau a halogi o ganlyniad i deithio rhyngwladol, ac ar gyfer darpariaeth ddomestig i ddiogelu rhag, ac ymateb i, heintio a halogi. Darperir pwerau newydd i ynadon heddwch, i wneud gorchmynion sy'n gorfodi cymryd camau i ddiogelu iechyd mewn perthynas â phersonau, pethau a mangreoedd. Bydd modd i ynadon heddwch roi cyfarwyddyd hefyd i weithredu ym mha bynnag fodd sy'n briodol er mwyn cyflawni eu gorchmynion. Gwneir addasiadau i'r hawliau mynediad a'r trefniadau gorfodi mewn perthynas â mesurau diogelu iechyd. Yn ychwanegol, gwneir nifer o ddarpariaethau trosiannol ac arbedion, yn bennaf ynglŷn â'r gofynion hysbysu o dan y ddeddfwriaeth flaenorol.


Viewing all articles
Browse latest Browse all 25